O dan y ddyletswydd Prevent, dylai awdurdodau penodedig roi pwysau priodol ar yr angen i atal pobl rhag dod yn derfysgwyr neu gefnogi terfysgaeth.
Mae'r gwasanaeth hyfforddiant hwn yn esbonio diben Prevent, y risgiau sy'n ymwneud â radicaleiddio, sut i adnabod pryd y gallai rhywun fod yn dueddol i radicaleiddio, sut i godi pryderon, a sut olwg sydd ar ymateb cymesur. Mae wedi'i fwriadu ar gyfer staff rheng flaen, gan gynnwys meysydd addysg, iechyd, awdurdodau lleol, yr heddlu ac asiantaethau cyfiawnder troseddol (carchardai, y gwasanaeth prawf, cyfiawnder ieuenctid) ledled Cymru, Lloegr a'r Alban.
Rheolwr y wybodaeth yw:
Home Office
2 Marsham Street
London
SW1P 4DF
Sut a pham mae'r Adran yn defnyddio eich gwybodaeth
Mae'r Swyddfa Gartref yn casglu, prosesu a rhannu gwybodaeth bersonol i'w galluogi i gyflawni ei dyletswydd statudol. Caiff y Swyddfa Gartref brosesu eich data dim ond lle mae sail gyfreithlon i wneud hynny. At ddibenion yr hyfforddiant hwn, ymdrinnir â hyn o dan Erthygl 6(1)(e) y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), am fod prosesu'n angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a freiniwyd yn y rheolydd.
Caiff data hyfforddiant eu hadalw at ddibenion ystadegol ac adrodd yn unig, ac mae gan y Swyddfa Gartref yr opsiwn i rannu data gydag adrannau perthnasol eraill y llywodraeth, ar eu cais, i lywio penderfyniadau llunio polisi.
Sut y byddwn yn defnyddio'r data hyfforddiant
Mae cynrychiolwyr y Swyddfa Gartref yn monitro:
- y nifer o ddefnyddwyr sy'n ymweld â'r wefan
- pa mor bell mae pob un yn symud ymlaen drwy'r hyfforddiant
- y nifer o ddefnyddwyr sy'n dechrau'r hyfforddiant
- y nifer o ddefnyddwyr sy'n cwblhau'r hyfforddiant
- gweithgarwch dysgu o fewn y cwrs hyfforddiant
- lleoliad y dysgwyr
- sectorau a swyddi dysgwyr
- ymatebion i'r arolwg
Mae'r wybodaeth a gesglir yn ystod yr hyfforddiant hwn yn ddienw.
Storio eich gwybodaeth
Mae gwybodaeth a ddarperir gan ddysgwyr ar gyfer tystysgrifau prawf o gwblhau yn cael ei hamgryptio a'i chadw am 30 munud, ac ar ôl hynny dilëir y data. Mae cael tystysgrif prawf o gwblhau yn opsiynol. Darllenwch ragor am safonau cadw a gwaredu'r Swyddfa Gartref (yn agor mewn tab newydd).
Cwestiynau neu bryderon ynghylch data personol
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch casglu, defnyddio neu ddatgelu eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â'r Swyddfa Gartref ar info.access@homeoffice.gov.uk
Yn unol â gofynion GDPR a Deddf Diogelu Data 2018, mae'r Swyddfa Gartref wedi penodi Swyddog Diogelu Data annibynnol.
Os oes gennych unrhyw bryder neu gŵyn am y ffordd y cafodd eich data personol eu rheoli, cysylltwch â:
The Data Protection Officer
DPO@homeoffice.gov.uk
Peel Building
2 Marsham Street
London
SW1P 4DF
Adrodd am bryder
Pan fyddwn yn prosesu eich gwybodaeth, byddwn yn cydymffurfio â'r gyfraith, gan gynnwys deddfwriaeth diogelu data. Os ydych yn teimlo bod eich data yn cael eu prosesu yn groes i gyfraith diogelu data neu ddeddfwriaeth arall, gallwch roi gwybod i'n Swyddog Diogelu Data gan ddefnyddio'r manylion cyswllt a ddarperir uchod.
Mae gennych hefyd yr hawl i gwyno ar unrhyw adeg i'r ICO drwy gysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (yn agor mewn tab newydd).
Newidiadau yn y polisi hwn
Efallai y byddwn yn newid y polisi preifatrwydd hwn. Yn yr achos hwnnw, bydd y dyddiad 'diweddarwyd ddiwethaf' ar waelod y dudalen hon hefyd yn newid. Bydd unrhyw newidiadau yn y polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol i chi a'ch data ar unwaith.
Os bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar sut mae eich data personol yn cael eu prosesu, bydd y Swyddfa Gartref yn cymryd camau rhesymol i roi gwybod i chi.
Diweddarwyd ddiwethaf 6 Medi 2023