Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hwn yn berthnasol i gynnwys a gyhoeddir yn support-people-susceptible-to-radicalisation.service.gov.uk.

Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan y Swyddfa Gartref. Fe'i cynlluniwyd i'w defnyddio gan gynifer o bobl â phosibl. Dylai'r testun fod yn glir ac yn syml i'w ddeall. Dylech allu:

  • chwyddo hyd at 300% heb broblemau
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • defnyddio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver)

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon

Mae gan bob fideo yn ein cyrsiau isdeitlau yn Gymraeg a Saesneg. Mae trawsgrifiadau testun ar gael hefyd, a ddylai fod yn ddarllenadwy gan y mwyafrif o ddarllenwyr sgrin.

Nid oes gan ein fideos drawsgrifiadau testun disgrifiadol na thraciau disgrifiad sain sy'n disgrifio cynnwys gweledol y fideo. Efallai na fydd pobl â nam ar eu golwg yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd yn weledol mewn fideos.

Mae ein cyrsiau hyfforddiant yn amrywio o 30 i 60 munud i'w cwblhau; felly, gall cofio gwybodaeth fod yn heriol i bobl sy'n defnyddio darllenydd sgrin.

Y technolegau y mae'r cynnwys hwn yn dibynnu arnynt yw HTML 5, JavaScript a CSS3. Mae gennym drefniadau ar raid lle bo hynny'n bosib i gefnogi porwyr a thechnoleg hŷn, ond ceir y profiad defnyddiwr gorau drwy ddefnyddio porwr HTML5 modern cydnaws neu dechnoleg gynorthwyol gyfwerth.

Mae ein dogfennau PDF yn cynnwys rhai cydrannau a gwrthrychau graffigol nad oes ganddynt ddigon o gyferbynnedd â'r cefndir cyfagos. Efallai y bydd pobl â nam ar eu golwg yn ei chael hi'n anodd gweld manylion llawn y ddogfen oherwydd diffyg cyferbynnedd.

Ar ddiwedd pob cwrs, mae opsiwn i lawrlwytho tystysgrif PDF. Nid yw ein dogfennau PDF wedi'u tagio, ac o ganlyniad nid ydynt yn hygyrch i ddefnyddwyr darllenydd sgrin a'r rhan fwyaf o dechnolegau cynorthwyol eraill. Gall pobl â namau echddygol hefyd gael trafferth wrth lywio'r dystysgrif oherwydd diffyg strwythur.

Mae'r cwrs atgyfeiriadau Prevent yn cynnwys templed ffurflen atgyfeirio PDF y gall pobl ei lawrlwytho a'i defnyddio yn eu sefydliad. Mae'r defnydd o'r ffurflen hon yn ddewisol, ac nid yw'n effeithio ar gwblhau'r cwrs.

Mae'r cyrsiau'n cynnwys dolenni i wefannau a dogfennau allanol nad ydynt yn eiddo i'r Swyddfa Gartref. Felly, ni allwn wirio hygyrchedd y dolenni hyn.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Dywedwch wrthym os oes angen gwybodaeth arnoch mewn fformat gwahanol

Yn eich neges, cynhwyswch:

  • cyfeiriad gwe (URL) y cynnwys
  • eich cyfeiriad e-bost a'ch enw
  • y fformat sydd ei angen arnoch, er enghraifft, testun plaen, braille, BSL, print bras neu CD sain

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ceisio ateb o fewn pum diwrnod gwaith.

Gallwch hefyd weld polisi dogfennau hygyrch y Swyddfa Gartref (yn agor mewn tab newydd) gwybod am unrhyw broblemau neu ofyn am ddogfennau mewn fformat arall.

Adrodd am broblemau hygyrchedd ar y wefan hon

Os dewch ar draws unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni'r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni.

Gweithdrefn orfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd 2018 Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) (y ‘Rheoliadau Hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus gyda'n hateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r  Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) (yn agor mewn tab newydd).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae'r Swyddfa Gartref yn ymrwymedig i wneud ei gwefannau yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd 2018 Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2).

Rydym yn cydnabod bod meysydd i'w cwblhau o hyd o fewn y cwrs/cyrsiau nad ydynt yn gwbl hygyrch eto. Mae datrys hyn yn flaenoriaeth uchel o hyd, felly rydym wedi rhoi'r gwaith ar waith yn ein map ffordd.

Statws cydymffurfiaeth

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA fersiwn 2.1 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (yn agor mewn tab newydd).

Fideo byw

Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau fideo byw, am fod fideo byw wedi'i eithrio o fodloni'r rheoliadau  hygyrchedd. Mae gennym hefyd rywfaint o gynnwys fideo wedi'i recordio ymlaen llaw a gyhoeddwyd cyn 23  Medi 2020. Mae'r cynnwys hwn hefyd wedi'i eithrio o'r rheoliadau. 

Sut gwnaethom brofi'r wefan hon

Rydym yn defnyddio Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We V2.1 lefel A a lefel AA i brofi pa mor hygyrch yw support-people-susceptible-to-radicalisation.service.gov.uk . Cynhaliwyd y prawf gan Zoonou.

Gwnaethom ddefnyddio dull WCAG-EM  i ddiffinio sampl gynrychioliadol i'w phrofi.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 23 Awst 2022. Adolygwyd ddiwethaf ar 26 Mawrth 2024.