Stori Matthews

Matthew, sy'n 17 oed ac yn cael ei dynnu i mewn i weithgarwch asgell dde eithafol.

Roedd gan Matthew anawsterau dysgu, nid oedd ganddo ffrindiau ac roedd yn cael ei fwlio yn yr ysgol lle nad oedd yn dangos unrhyw ddiddordeb yn ei ddosbarthiadau. Roedd Matthew eisoes wedi bod yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol â chymhelliant hiliol.

Talwch sylw i'r fideo gan y gofynnir cwestiynau i chi wedyn.

Yn ôl at ddewis astudiaeth achos

Gwyliwch y fideo i gael gwybod mwy am stori Matthew

Hyd fideo - 2 funud 33 eiliad

You can turn on closed captions ( CC ) in the video player controls.

Gweld Trawsgrifiad

Pan oeddwn i'n blentyn roeddwn i'n byw gyda mam a dad. Rwy’n cofio fy mod i a fy Nhad yn arfer cicio pêl-droed o gwmpas yn y parc ac roedden ni bob amser yn cael rhostiau teuluol ar ddydd Sul. Ar ôl i Dad golli ei swydd fe ddechreuodd ef a fy Mam ddadlau llawer, ac un diwrnod fe wnaeth ef adael.

Fe wnaeth Mam gwrdd â Martin yn y gwaith a dechrau treulio ei holl amser gydag ef Ar ôl iddyn nhw gael fy chwaer fach, Marie, roedd mam yn rhy brysur gyda'i theulu newydd, ac roedd hi wedi fy ngadael i fwrw ati ar fy hunan.

Nid oes unrhyw beth i'w wneud lle rwy'n byw. Mae'n ddiflas iawn heblaw pan fydda i'n mynd i Gadetiaid y Fyddin. Roedd fy Nhad a Thaid yn y Fyddin ac roeddwn i bob amser eisiau ymuno. Mae'r hogiau yno'n iawn. Maen nhw'n gwneud i mi deimlo'n rhan o dîm.

Doeddwn i erioed yn teimlo felly yn yr ysgol achos roeddwn i’n cael fy mwlio, roedd y plant eraill yn galw enwau arna i fel fy mod i’n dwp a thew. Fe wnaethon nhw chwerthin ar fy mhen pan oeddwn i’n darllen yn uchel yn y dosbarth. Gwnaeth yr ysgol i mi fynd am brawf lle cefais ddiagnosis o Awtistiaeth, roeddwn i mor ddig. 

Roeddwn i'n gwybod na fyddwn i'n gallu ymuno â'r fyddin nawr. Aeth fy ngorbryder yn wael iawn a dechreuais dreulio llawer o amser yn gwylio fideos newyddion ar-lein am ymosodiadau terfysgol yn y DU. Doeddwn i erioed yn hoffi pobl nad ydyn nhw'n wyn beth bynnag. Byddwn i’n gweiddi arnynt i fynd adref a chroesi'r ffordd pryd bynnag y byddwn i’n gweld un. Roeddwn i'n arfer mynd o gwmpas yn fandaleiddio eu heiddo; gwnaeth hynny i mi ffitio i mewn gyda'r hogiau yn fy ardal.

Dechreuais chwilio ar-lein am ffyrdd y gallwn i ‘gael gwared’ ar y bobl hyn nad ydyn nhw’n perthyn yma gan chwilio am wefannau lle gallwn i brynu sticeri a oedd yn dangos sut mae pobl wyn yn rhagori arnyn nhw. Fe wnes i ddod o hyd i grŵp ar-lein yn llawn o bobl a oedd yn cytuno â mi. Dyna le wnes i gwrdd â Rob, mewn ystafell sgwrsio. Roedd yn ymddangos yn eithaf cŵl. Trefnodd Rob i mi gwrdd â rhai o'i ffrindiau yn y Llyfrgell.

Fe wnaethon nhw ddweud wrthyf am eu grŵp a'r hyn y gallem ei wneud i ymladd yn erbyn y terfysgwyr. Fe wnaethon nhw ddweud wrthyf am sut mae ein diwylliant yn cael ei gymryd drosodd gan fewnfudwyr a sut mae estroniaid yn cyflawni’r rhan fwyaf o'r troseddau yn y wlad hon. Y jôc yw bod y llywodraeth yn gofalu amdanyn nhw ond wnaethon nhw ddim gofalu am dad pan ddaeth adref o Irac. Dywedodd Rob fod pobl nad ydyn nhw'n sefyll dros ein hil bron mor ddrwg â'r terfysgwyr.

Mae llawer o bobl o gwmpas yma yn siarad am fewnfudwyr, ond nid oes yr un ohonyn nhw'n gwneud unrhyw beth amdano. Dywedodd Rob mai ein cyfrifoldeb ni yw amddiffyn ein diwylliant. Nid yw Rob a'r bechgyn yn poeni am eich pwysau na sut rydych chi'n gwneud yn yr ysgol, eich gwaed chi sy'n cyfrif.

Pan oeddwn i’n cymdeithasu gyda nhw, doeddwn i ddim yn teimlo'n orbryderus; roedd fel ein bod ni i gyd ar yr un ochr. Dywedon nhw y gallwn i brynu un o'u rhwymynnau breichiau swastica ac fe wnes i ei brynu ar unwaith. Fe wnaeth hyn i mi deimlo'n rhan o'u grŵp. echreuais i ddweud pethau wrth y plant yn yr ysgol, am yr hyn yr oeddwn i'n ei feddwl am yr hiliau eraill.


Eich cyfeirnod hyfforddiant

2TPW-K3MD-429P