Cael help i ddefnyddio gwasanaeth hyfforddiant y ddyletswydd Prevent

Dysgwch ragor am wasanaeth hyfforddiant y ddyletswydd Prevent, gan gynnwys ble i gael help ar gyfer anawsterau technegol a gwybodaeth am bolisi a gweithdrefn leol. Cewch hefyd fanylion cyswllt ar gyfer pwy i gysylltu â nhw os oes angen cymorth arnoch gyda'r gwasanaeth hyfforddiant.

Anawsterau technegol

Os cewch unrhyw anawsterau technegol gyda'r gwasanaeth, e-bostiwch prevent.training@homeoffice.gov.uk 

Byddwn yn ceisio ateb o fewn 3 diwrnod gwaith.

Cymorth i gwblhau'r hyfforddiant

Os oes angen unrhyw gymorth arnoch i gwblhau'r hyfforddiant, er enghraifft os nad yw'r gwasanaeth yn gweithio, ni allwch ddod o hyd i'r dudalen rydych yn chwilio amdani, neu os yw dolen wedi torri, siaradwch â'ch rheolwr llinell neu'ch un pwynt cyswllt Prevent yn eich sefydliad.

Cwestiynau am bolisi neu weithdrefn leol

Os oes gennych gwestiynau am eich polisi neu weithdrefnau lleol, siaradwch â'ch un pwynt cyswllt Prevent lleol yn eich sefydliad.

Rhannu pryderon am aelod o'r teulu, ffrind neu aelod o'ch cymuned

Os nad ydych yn gweithio mewn sector sy'n dod o dan y ddyletswydd Prevent, ond mae gennych bryder am berson yr hoffech ei rannu, cysylltwch â'ch cyngor lleol neu ffoniwch linell gyngor genedlaethol Prevent yr Heddlu ar 0800 011 3764.