Gweld sut y cafodd Matthew ei gefnogi drwy'r rhaglen Prevent. Byddwch yn dysgu am ba ymyriadau a roddwyd ar waith i'w dynnu i ffwrdd o radicaleiddio.
Gwyliwch y fideo i gael gwybod mwy am stori Matthew.
Hyd fideo - 1 minute 23 eiliad
You can turn on closed captions () in the video player controls.
Gweld Trawsgrifiad
Mae'n rhaid bod fy athrawes wedi clywed rhywbeth oherwydd fe wnaeth hi atgyfeiriad i'r cyngor lleol. Derbyniodd Mam alwad ffôn gan y cyngor lleol oherwydd eu bod yn poeni amdanaf. Cytunodd Mam iddyn nhw ymweld â ni gartref. Dyma pryd y daeth mam o hyd i'r rhwymyn braich a bod mam a Martin wedi gwylltio. Yn nes ymlaen, cytunodd mam y dylwn i gwrdd â “Darparwr Ymyrraeth” o’r enw Alex.
Roeddwn i'n meddwl y byddwn i’n ei gasáu, ond roedd Alex yn cŵl. Roedd fel mentor. Gwrandawodd ef ar yr hyn oedd gen i i'w ddweud, a wnaeth e ddim fy marnu. Mae Alex wedi fy helpu i ddelio â fy nicter. Sylweddolais fy mod yn beio estroniaid a mewnfudwyr am fy holl broblemau.
Wn i ddim beth y gallwn i fod wedi'i wneud os nad oedd Alex wedi helpu. Rwyf i a mam yn dod ymlaen yn llawer gwell nawr. Mae Alex a mam yn fy helpu i weithio tuag at ymuno â'r Fyddin. Efallai na fydd yn gweithio allan o hyd, rwy'n credu os na fydd, y gallwn i fod yn beiriannydd, a fyddai'n eithaf da. Fe wnaeth Alex fy helpu I sylweddoli nad oedd angen i mi fod yn ofnus trwy'r amser. Dywedais wrtho hyd yn oed am fod yn hunanymwybodol ynghylch fy mhwysau ac fe helpodd fi i gael aelodaeth Campfa.
Rwy'n llawer mwy hyderus ynglŷn â sut rwy'n edrych nawr. Weithiau, byddaf fi a Martin yn mynd i'r gampfa gyda'n gilydd. Mae ef yn iawn wyddoch chi. Anfonodd Rob negeseuon ataf am ychydig ond dywedais wrtho nad oes gen i ddiddordeb. Rwy'n cymdeithasu gyda fy nheulu yn lle nawr, rydyn ni hyd yn oed wedi dechrau gwneud rhostiau dydd Sul eto.
Eich cyfeirnod hyfforddiant