Dewiswch pa bartneriaid panel yr hoffech glywed ganddynt a pha gymorth y gallent ei gynnig.
Ein blaenoriaeth yw asesu Halima ac edrych a allwn ei chael i ailddechrau ei thriniaeth.
Mae ei chofnodion meddygol yn dal i fod yn gyfrifoldeb i Gaerlŷr, felly byddai'n dda cytuno ar ffordd i'w trosglwyddo yma fel mai ni yw ei phrif ranbarth gofal iechyd.
Os gellir dod â Halima i mewn am darfu ar yr heddwch, gallwn drefnu i'r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Cymunedol ymweld â hi pan fydd yn y ddalfa i gael ei hasesu. Mae hon yn sefyllfa adweithiol, fodd bynnag. Mae'n tybio y bydd Halima yn achosi aflonyddwch eto, lle byddai'n well gen i fod yn fwy rhagweithiol wrth ddod o hyd i ffordd o asesu ei hiechyd meddwl.
Gallwn ofyn i swyddogion cymunedol geisio ymgysylltu â hi, ond nid yw hi wedi bod yn ymatebol i hyn yn y gorffennol.
Gallwn edrych ar ddarparu datrysiadau llety tymor byr preifat i Halima. Byddai angen iddi gymryd rhan yn hynny, fodd bynnag, ac nid yw'n gofyn am unrhyw help gyda llety ar hyn o bryd.
Hoffwn weld Halima yn cael ei herio ar rai o'r pethau mae hi'n eu dweud, a gallai cwnselwr neu ddarparwr ymyrraeth fod y person cywir i wneud hyn.
Byddwn i'n sicr yn gyffyrddus pe bai un o'n tîm yn cael y sgyrsiau cychwynnol gyda hi i leisio'r syniadau hyn, ac efallai gweld pam ei bod yn dweud hyn yn gyhoeddus. Byddwn i'n chwilio am dystiolaeth o ideoleg yn hytrach na rhywun ag awtistiaeth sy'n gweld y byd mewn ffordd lythrennol iawn. Byddai hyn yn llywio unrhyw asesiad o'i hanghenion gofal a chymorth.