Stori Matthew

Cawsoch 2 allan o 3

Yr atebion cywir yw:

Treulio amser ar-lein

Dechreuodd Matthew dreulio llawer o amser ar-lein yn gwylio fideos am ymosodiadau terfysgol. Arweiniodd hyn at ei gyflwyno i radicaleiddwyr mewn ystafell sgwrsio ar-lein.

Cyfathrebu â grŵp Asgell Dde

Roedd Matthew wedi bod yn cyfathrebu ag aelodau o grŵp asgell dde eithafol ar-lein yr honnwyd eu bod yn recriwtio pobl i'w sefydliad ac wedi mynychu cyfarfod gyda nhw. Roedd y grŵp eithafol yn dylanwadu arno.

Arddangos ymddygiad gwrthgymdeithasol

Byddai Matthew yn dangos ymddygiad gwrthgymdeithasol drwy weiddi ar bobl nad ydynt yn wyn ar y stryd gan ddweud wrthynt am fynd adref a fandaleiddio eu heiddo. Dechreuodd hefyd leisio ei farn ar hiliau eraill yn yr ysgol gan wneud i bobl eraill deimlo'n anghyfforddus.

Yr atebion anghywir yw:

Ymuno â chadetiaid y fyddin

Er y gallai ymuno â chadetiaid y fyddin ymddangos fel achos pryder, gan ei fod yn awgrymu ei fod am ymladd mewn rhyfel, yn yr achos hwn, roedd Matthew am ddilyn yn olion traed ei dad a'i dadcu, felly nid oes rheswm dros bryderu.

Dod yn fwy annibynnol

Bu'n rhaid i Matthew ddod yn fwy annibynnol wrth iddo fynd yn fwy ynysig oddi wrth ei deulu. Er y gellir ystyried bod hyn yn fregusrwydd am berson ifanc, nid oes ganddo unrhyw gysylltiad â chael ei dynnu i mewn i derfysgaeth.

Parhau