Prevent duty training: Learn how to support people susceptible to radicalisation

Dewch o hyd i'r cwrs hyfforddiant cywir i chi

The government training courses are designed, and are appropriate for, staff working in sectors covered by the Prevent duty. These include education, health, local authorities, police and criminal justice agencies. Other sectors that are not covered may also complete this training. You do not have to complete all the courses. You should refer to your organisation's training requirements to determine which courses are appropriate for you.

Rhestr o gyrsiau

List of refresher courses

Os ydych wedi dechrau cwrs ac yr hoffech ei gwblhau, defnyddiwch eich cyfeirnod i ailddechrau eich cwrs.


Choose your course

Cwrs 1

Cwrs ymwybyddiaeth

Mae'n cymryd 30 i 40 munud i gwblhau'r cwrs hwn.

Ar gyfer pwy mae'r cwrs

Mae'r cwrs hwn ar gyfer unrhyw un sy'n newydd i Prevent. Os ydych yn ansicr ynghylch beth yw Prevent a pha arwyddion i chwilio amdanynt o ran risgiau radicaleiddio, ymwybyddiaeth yw'r cwrs cyntaf yn ein hyfforddiant dyletswydd Prevent.

Mae ar gyfer unrhyw un sy'n gweithio gydag aelodau'r cyhoedd yn rheolaidd, er enghraifft y rhai sy'n gweithio ym maes addysg, iechyd, y gwasanaeth prawf, yr heddlu ac awdurdodau lleol. Gall aelodau o'r cyhoedd a hoffai ddysgu rhagor am sut i adnabod ymddygiadau sy'n peri pryder ei gwblhau hefyd.

Gallwch rannu hyfforddiant gydag eraill drwy anfon y ddolen hon:

https://www.support-people-susceptible-to-radicalisation.service.gov.uk/cy/portal#cwrs-ymwybyddiaeth

Trosolwg o'r cwrs

Bydd y cwrs hwn yn rhoi cyflwyniad i chi i'r ddyletswydd Prevent, y mathau o eithafiaeth a therfysgaeth sy'n bygwth y DU, ac yn datblygu eich gwybodaeth am risgiau radicaleiddio a'ch rôl gefnogol.

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, byddwch yn gallu:

  • gwybod beth yw Prevent
  • deall pam bod Prevent yn bwysig
  • deall sut mae Prevent yn berthnasol i'ch rôl
  • adnabod yr emosiynau a'r ymddygiadau a allai wneud rhywun yn dueddol i radicaleiddio
  • deall sut i gymhwyso'r weithdrefn sylwi, gwirio, rhannu

Dechrau'r cwrs ymwybyddiaeth


Cwrs 2

Cwrs atgyfeiriadau

Mae'n cymryd 30 i 40 munud i gwblhau'r cwrs hwn.

Cyn i chi ddechrau

Rhaid i chi gwblhau'r cwrs ymwybyddiaeth cyn dechrau'r cwrs hwn.

Ar gyfer pwy mae'r cwrs

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio'n bennaf ar gyfer Arweinwyr Diogelu Dynodedig (DSL), gweithwyr proffesiynol Prevent neu rolau cyfatebol sy'n gwneud atgyfeiriadau Prevent i'r heddlu. Os yw'r cyfrifoldeb hwnnw'n rhan o'ch swydd, ni waeth beth yw eich teitl swydd, mae'r cwrs hwn ar eich cyfer chi.

Mae'r cwrs hwn hefyd ar gyfer unrhyw un a allai fod angen gwneud atgyfeiriad Prevent a'r rhai a allai sylwi ar bryder y mae angen iddynt ei godi gyda'u DSL neu gyfwerth fel y gallant atgyfeirio at yr heddlu.

Gallwch rannu'r hyfforddiant hwn gydag eraill drwy anfon y ddolen hon:

https://www.support-people-susceptible-to-radicalisation.service.gov.uk/cy/portal#cwrs-atgyfeiriadau

Trosolwg o'r cwrs

Mae'r cwrs hwn yn adeiladu ar y cwrs ymwybyddiaeth, a bydd yn esbonio sut i wneud atgyfeiriad Prevent sy'n wybodus a chyda bwriad da.

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, byddwch yn gallu:

  • gwybod beth yw atgyfeiriad Prevent
  • gwybod pa wybodaeth i'w chasglu
  • gwybod pwy i siarad â nhw, i wirio pryderon
  • adnabod achosion dilys o bryder
  • gwybod yr egwyddorion allweddol ar gyfer gwneud atgyfeiriad Prevent

Dechrau'r cwrs atgyfeiriadau


Cwrs 3

Croeso i'r Channel neu cwrs Prevent Multi-Agency Panel (PMAP)

Mae'r cwrs hwn yn cymryd 50 i 60 munud i'w gwblhau.

Cyn i chi ddechrau

Rhaid i chi gwblhau'r cyrsiau ymwybyddiaeth ac atgyfeiriadau cyn dechrau'r cwrs hwn.

Ar gyfer pwy mae'r cwrs

Mae Channel yn rhaglen amlasiantaeth ledled Cymru a Lloegr sy'n darparu cymorth cam cynnar i bobl sydd wrth risg radicaleiddio, dod yn derfysgwyr neu gefnogi terfysgaeth. Yn yr Alban, gelwir y rhaglen yn Panel Amlasiantaeth Prevent (PMAP). Mae'r cwrs hwn ar gyfer:

  • cadeiryddion panel Channel neu PMAP awdurdod lleol
  • aelodau Channel neu PMAP
  • unrhyw un y gellir gofyn iddynt gyfrannu at neu eistedd ar banel Channel neu PMAP

Efallai y gofynnir i chi ymuno â chyfarfod panel os ydych wedi bod yn rhan o atgyfeiriad Prevent person neu os oes gennych gysylltiad â'r person, megis mai chi yw eu hathro neu weithiwr cymdeithasol.

Cwblhewch y cwrs hwn cyn mynd i banel Channel neu PMAP fel bod gennych well dealltwriaeth o sut mae'r rhaglen Prevent yn helpu'r rhai sydd wrth risg radicaleiddio.

Gallwch rannu'r hyfforddiant hwn gydag eraill drwy anfon y ddolen hon:

https://www.support-people-susceptible-to-radicalisation.service.gov.uk/cy/portal#croeso-ir-channel-neu-cwrs-prevent-multi-agency-panel-pmap

Trosolwg o'r cwrs

Bydd y cwrs hwn yn rhoi dealltwriaeth i chi o broses lawn Channel neu PMAP a'r opsiynau ymyrraeth sydd ar gael.

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, byddwch yn gallu:

  • disgrifio beth yw Channel neu PMAP
  • adnabod rolau a chyfrifoldebau pobl o fewn panel Channel neu PMAP
  • rhannu gwybodaeth ar yr adeg gywir gyda'r person cywir
  • adnabod y camau cyntaf i asesu a yw rhywun yn dueddol i fod yn derfysgwr neu gefnogi terfysgaeth
  • adnabod yr opsiynau mwyaf priodol sydd ar gael i gynorthwyo person sydd wrth risg
  • deall y gofyniad i gael cydsyniad cyn gallu cynorthwyo person

Dechrau'r cwrs Channel neu PMAP


Cwrs Ymwybyddiaeth Gloywi

Mae'n cymryd 20 i 30 munud i gwblhau'r cwrs hwn.

Cyn i chi ddechrau

Rhaid eich bod wedi cwblhau'r cwrs ymwybyddiaeth cyn dechrau'r cwrs gloywi hwn.

Ar gyfer pwy mae'r cwrs

Mae'r cwrs hwn ar gyfer unrhyw un sydd eisoes wedi cwblhau'r cwrs ymwybyddiaeth ac a hoffai gael eu hatgoffa o'r pwyntiau allweddol. Rydym yn argymell eich bod yn gwneud y cwrs hwn bob blwyddyn. Fodd bynnag, dylech gyfeirio at eich polisi hyfforddiant Prevent lleol am gyngor.

Gallwch rannu'r hyfforddiant hwn gydag eraill drwy anfon y ddolen hon: https://www.support-people-susceptible-to-radicalisation.service.gov.uk/cy/portal#cwrs-ymwybyddiaeth-gloywi

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd y cwrs hwn yn eich atgoffa ynghylch y ddyletswydd Prevent, y mathau o eithafiaeth a therfysgaeth sy'n bygwth y DU, ac yn datblygu eich gwybodaeth am risgiau radicaleiddio a'ch rôl gefnogol.

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, byddwch yn gallu:

  • gwybod beth yw Prevent
  • deall pam bod Prevent yn bwysig
  • deall sut mae Prevent yn berthnasol i'ch rôl
  • adnabod yr emosiynau a'r ymddygiadau a allai wneud rhywun yn dueddol i radicaleiddio
  • deall sut i gymhwyso'r weithdrefn sylwi, gwirio, rhannu

Dechrau’r cwrs ymwybyddiaeth gloywi